P-05-892 Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cardiff People First, ar ôl casglu 145 o lofnodion ar-lein a 423 ar bapur, sef cyfanswm o 568 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​         

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru. Mae'n rhaid i'r person hwnnw fod ag anabledd dysgu.

 

Mae mwy o adroddiadau o gam-drin pobl ag anabledd dysgu yn ymddangos yn Lloegr eto. Mae ymchwil yn dangos hefyd bod pobl ag anabledd dysgu yn cael gofal iechyd anghyfartal ac yn marw hyd at 20 mlynedd yn gynharach nag eraill. Mae'n 50 mlynedd ers i adroddiad Ysbyty Trelái ddangos cam-drin gan arwain at gau'r sefydliadau hyn. Fel y sefydliad a sefydlwyd gan bobl sy'n gadael Trelái, credwn ei bod hi'n bryd i ni gael rhywun i hyrwyddo ein hawliau i ni yng Nghymru.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Caerdydd

·         Canol De Cymru